Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yw'r ysgol hon. Fe'i sefydlwyd drwy Weithred Ymddiriedolaeth ac fe'i cynhelir gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Y mae'n adlewyrchu'r Sustem Ddeuol, partneriaeth gyd rhwng yr Eglwys â'r Llywodraeth Ganolog a Lleol, sydd yn creu'r Sustem Cynnal Addysg yn y wlad hon. Fe ddaw i'r categori a elwir yn Ysgol Wirfoddol Dan Reolaeth.
Mae gan yr ysgol gysylltiadau â'r Eglwys yng Nghymru ar lefel blwyfol ac esgobaethol. Mae gan yr Eglwys yng Nghymru dri chynrychiolydd o'r plwyf ar Fwrdd y Llywodraethwyr, sef y ficer a dau arall, ag un ohonynt fel arfer yn rhiant sydd hefyd yn aelod o'r Eglwys.
Ceir ymweliadau ymgynghorol blynyddol gan Ymwelwyr yr Esgob. Arweinir y gwasanaeth boreol yn rheolaidd gan aelod o dim eglwysi Bangor.
Mae'r ysgol yn cydweithredu ag Eglwys Y Plwyf Sant Pedr pan gynhelir Gwyliau Cristnogol, gyda rhai dathliadau gwyl yn cael eu cynnal yn yr Eglwys. Mae'r glerigaeth leol yn ymweld â hi'n rheolaidd ac Esgob Bangor yn achlysurol.
Cyfeiriad: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Faenol,
Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2NN
Ffôn: 01248 352 162 | E-bost: joanna.thomas@faenol.ysgoliongwynedd.cymru