Hen, hen stori yw arwyddair Ysgol y Faenol, 'A fo ben, bid bont'. Daw o ail gainc Y Mabinogion. Chwedl Branwen a Bendigeidfran yw honno.
Brenin Prydain oedd Bendigeidfran a Branwen oedd ei chwaer. Trigai'r ddau yn y llys yn Harlech, Ardudwy. Un diwrnod yr oeddynt yn eistedd ar graig Harlech a oedd uwchben y môr pan welsant dair llong ar ddeg yn nesu tua'r lan. Llongau Matholwch, Brenin Iwerddon oedd y rhain.
Roedd wedi dod i ofyn am law Branwen yn wraig iddo. Penderfynodd Bendigeidfran roi Branwen yn wraig i Fatholwch a phriodwyd y ddau yn Aberffraw, ym Môn. Noson y briodas, yng nghanol y gwledda daeth Efnisien, hanner brawd Bendigeidfran i'r fan lle'r oedd ceffylau Matholwch.
Cafodd hanes y briodas, a gan nad oedd ef wedi rhoi ei ganiatâd i'r briodas, gwylltiodd gan dorri clustiau, cynffonnau a gweflau y ceffylau ymaith. Daeth y newyddion i Fatholwch am y difrod i'w geffylau a phenderfynodd fynd yn ôl i'r Iwerddon. Danfonodd Bendigeidfran wyr ar ei ôl gan erfyn arno i aros. Rhoddwyd anrhegion o aur a cheffylau iddo. Trefnwyd gwledd fawr a derbyniodd Matholwch bair hud yn anrheg gan Bendigeidfran. Hwyliodd Matholwch a Branwen i'r Iwerddon, lle bu'r ddau yn hapus am flwyddyn gyfan.
Ganwyd Mab iddynt a enwid yn Gwern. Ychydig wedyn daeth newyddion i'r Iwerddon am y cam a gawsai Matholwch yn Ynys y Cedyrn. Penderfynodd y bobl bod yn rhaid cosbi Branwen. Bu'n rhaid iddi fyw fel morwyn a gorfodwyd hi i weithio yn y gegin, lle cawsai fonclust bob dydd gan y cigydd. Ei hunig gyfaill oedd aderyn drudwy. Siaradai Branwen â'r aderyn bach gan ddweud wrtho am ei brawd Bendigeidfran. Daeth yr aderyn i ddeall ei hiaith yn llwyr.
Ysgrifennodd Branwen lythyr at ei brawd yn dweud wrtho am ei chosb. Clymodd y llythyr wrth adain y drudwy a dweud wrtho am hedfan at ei brawd. Hedodd y drudwy i Gymru a danfon y neges at Bendigeidfran. Gwyll tiodd hwnnw a hwyliodd gyda'i filwyr draw am Iwerddon.
Pan ddeallodd Matholwch bod Bendigeidfran wedi glanio yn Iwerddon ac am ddial cam Branwen, dihangodd gyda'i filwyr dros afon Llinon a thorri'r bont rhag i Bendigeidfran ei ddal. Pan ddaeth Bendigeidfran at yr afon a gweld nad oedd pont yno, dywedodd "A fo ben, bid bont" [Myfi a fyddaf bont] a gorweddodd dros yr afon a cherddodd ei filwyr drosto o un lan i'r afon i'r llall.
Dyma yw tarddiad y dywediad "A fo ben, bid bont". Y bont sydd ar y logo yw Pont Britannia sy'n croesi o Ynys Môn i'r tir mawr ac sydd wedi ei lleoli yn agos iawn i'r ysgol.
Gobeithiwn y bydd Ysgol y Faenol yn bont i'r holl blant sydd ynddi i'w galluogi i gamu 'mlaen ar hyd taith addysgol hapus a llwyddiannus.
Cyfeiriad: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Faenol,
Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2NN
Ffôn: 01248 352 162 | E-bost: joanna.thomas@faenol.ysgoliongwynedd.cymru