Fel sy’n hysbys, yn unol â phenderfyniad Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol ym mis Medi 2021, gohiriwyd dyddiad gweithredu’r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o ddysgwyr o 1 Medi 2021 i 25 Ebrill 2022. (Mae copi o’r llythyr a rannwyd hefo rhan-ddeiliaid ym mis Medi 2021 i’w weld isod).
Yn ddiweddarach, yn eu cyfarfod ar 15 Mawrth 2022, penderfynodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol “ohirio gweithredu’r cynnig i gynyddu capasiti yr ysgol i 315 o ddisgyblion, o 25 Ebrill 2022 i 23 Rhagfyr 2022, am y rheswm y byddai’n afresymol o anodd gweithredu y cynnig ar y dyddiad gweithredu (25 Ebrill 2022) oherwydd llithriad yn yr amserlen waith adeiladu, a gan fod trafodaethau ynglŷn a throsglwyddiadau tir yr ysgol yn parhau.”
Ar ran Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol, mae copi electroneg o lythyr sy’n nodi’r rhesymau dros ohirio’r dyddiad gweithredu i’w weld isod:
Llythyr Rhan-ddeiliaid – Mawrth 2022
Llythyr Rhan-ddeiliaid – Medi 2021
Fel rhan o broses i foderneiddio’r ysgol penderfynwyd ail-gynllunio’r logo a’r wisg ysgol. Penderfynwyd ar liwiau’r gwisg ysgol yn dilyn ymgynghoriad gyda holl randdeiliaid yr ysgol a gofynnwyd i’r plant gynnig eu syniadau yna fe gomisiynwyd artist i weithio gyda ni i ddylunio’r logo.
Roeddem yn awyddus i’r logo gyfleu ein hethos a’n gwerthoedd ac i gysylltu gyda hanes yr ysgol a Stad Y Faenol. Darllennwch ymlaen er mwyn deall pam dewiswyd y cynllun yma.
Mae'r ysgol ar gau ar hyn o bryd, dyma neges i'n disgyblion:
Dyma Mali, Ci Ysgol Y Faenol ar ei diwrnod cyntaf. Bydd Mali'n gweithio gyda'r disgyblion er mwyn datblygu lles ein plant.
Gwybodaeth bellach:
• Llythyr Ci (pdf)
• Asesiad Risg Ci (pdf)
Ar ddydd Mawrth, 19 Tachwedd, 2019, penderfynodd y Corff Llywodraethu i ohirio dyddiad gweithredu’r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o ddisgyblion yn weithredol o 1 Ionawr 2021 i 1 Medi 2021, gan y byddai’n afresymol o anodd i gwblhau’r gwaith adeiladu erbyn 1 Ionawr 2021 o ganlyniad i oediad yn y broses tendro.
Gwybodaeth bellach:
• Llythyr penderfyniad (pdf)
Os ydych angen gwybodaeth bellach, mae modd i chi gysylltu gyda ModerneiddioAddysg@gwynedd.llyw.cymru
Os ydych am wneud cais i'ch plentyn fynych'r ysgol yna cliciwch ar y ddolen isod bydd yn eich arwain i wefan Cyngor Gwynedd.
Cawson ein harolygu gan Estyn ym mis Ionawr ac mae ein darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen wedi ei nodi fel arfer rhagorol sydd i'w rannu gydag eraill. Rydym yn falch iawn bod ein hastudiaeth achos ar 'Meithrin annibyniaeth ymhlith disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen' wedi ei chyhoeddi ar wefan Estyn. Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma.
Mae Adroddiad yr arolygiad diweddar gan Estyn bellach wedi ei chyhoeddi, gallwch ei darllen drwy ddilyn y ddolen yma neu drwy chwilio ar wefan Estyn.
Fel ysgol rydym yn falch iawn o’r adroddiad ac yn cytuno gyda’r cynnwys. Mae’n adroddiad calonogol iawn ac mae’n adlewyrchu cryfderau’r ysgol yn dda.
Rydym yn falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith rhagorol sy’n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen. Mae Estyn wedi ein gwahodd i baratoi astudiaeth achos ar ei gwaith mewn perthynas â’r ddarpariaeth yn y cyfnod sylfaen sy’n magu annibyniaeth ymysg disgyblion, i’w lledaenu ar wefan Estyn er mwyn rhannu’r arfer rhagorol gydag ysgolion eraill.
Os ydych angen copi papur o’r adroddiad yna cysylltwch gyda’r ysgol.
Ar ddydd Iau, 24 Ionawr, 2019, cymeradwyodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o ddisgyblion yn weithredol o 1 Ionawr 2021.
Cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol rhwng 23 Tachwedd 2018 a 21 Rhagfyr 2018.
Gwybodaeth bellach:
Os ydych angen gwybodaeth bellach, mae modd i chi gysylltu gyda ModerneiddioAddysg@gwynedd.llyw.cymru
Yn dilyn cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu rhwng 23 Tachwedd 2018 a 21 Rhagfyr 2018.
Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.
Bydd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol yn cyfarfod ar y 24 Ionawr 2019 i drafod y camau nesaf.
Gweler isod gopi o adroddiad yn dilyn cyfnod gwrthwynebu
Adroddiad Gwrthwynebu (PDF)
Mae gwybodaeth am gynyddu capasiti Ysgol y Faenol hefyd i’w gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol mae Cyngor Gwynedd wedi ei sicrhau i foderneiddio darpariaeth addysg gynradd yn ninas Bangor. Mae cyfanswm o £12.7 miliwn wedi ei adnabod ar gyfer y gwaith, sy’n cynnwys cyfraniad o £6.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r Cyngor i adolygu a gwella’r ddarpariaeth addysg. Mae potensial i ddefnyddio rhan o’r gyllideb i wneud gwaith adnewyddu a chynyddu capasiti Ysgol y Faenol.
Fel rhan o’r broses, mae Panel Adolygu Dalgylch Bangor (PAD), sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion y dalgylch, Cynghorwyr Dinas, Cynghorwyr Sir ac eraill, wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ac wedi ystyried y cyfleoedd a’r opsiynau sydd ar gael. Yn dilyn ystyriaeth lawn o’r opsiynau posib, cynnigir cynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 i ymateb i‘r gofyn am lefydd yn Nalgylch Bangor.
Mewn cyfarfod ar y 3ydd o Orffennaf, 2018 penderfynodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar gynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, yn unol â gofynion Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013. Fel rhan o’r ymgynghoriad, byddai Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol yn hoffi i chi gyflwyno eich barn fel y gellir ei hystyried cyn gwneud penderfyniad a bydd cyfle i bawb sydd â diddordeb yn y newidiadau posib ddatgan eu barn.
Bydd cyfnod o ymgynghori statudol yn cychwyn w/c Medi 17, 2018.
Mewn cyfarfod ar y 3ydd o Orffennaf, 2018 penderfynodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar gynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, yn unol â gofynion Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013
Bydd yr ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal rhwng 18 Medi a 30 Hydref, 2018.
Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gorff Llywodraethol Ysgol y Faenol er mwyn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf. Mi fydd yr adroddiad yn cynnwys ymatebion i’r holl sylwadau dderbynnir.
Mae’r ddogfen ymgynghori statudol, pecyn gwybodaeth cefndirol a dogfennau perthnasol eraill ar gael isod:
Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679247 neu e-bostio moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru.
Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar gynyddu capasiti Ysgol y Faenol rhwng 18 Medi – 30 Hydref 2018.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref, 2018, a bydd sylwadau a dderbyniwyd yn cael ei cyflwyno ger bron Corff Llywodraethol Ysgol Y Faenol ar 20 Tachwedd 2018.
Gweler isod gopi o’r adroddiad a’r dogfennau perthnasol
Cyfnod Gwrthwynebu
Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn ymwneud a chynyddu capasiti Ysgol y Faenol, adroddwyd i Gorff Llywodraethol Ysgol y Faenol ar y 20 Tachwedd, 2018.
Penderfynodd y Corff Llywodraethol :
1. Cymeradwyo'r cynnig gynyddu capasiti Ysgol y Faenol o 186 i 315
2. Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd rhybudd statudol ar y 23 Tachwedd 2018.
Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 21 Rhagfyr 2018.
Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol drwy law y Swyddfa Moderneiddio Addysg:
Cyngor Gwynedd,
Swyddfa’r Cyngor,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1SH
neu drwy anfon neges e-bost at moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru
Cyfeiriad: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Faenol,
Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2NN
Ffôn: 01248 352 162 | E-bost: joanna.thomas@faenol.ysgoliongwynedd.cymru